Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Ionawr 2018
Amser:
08.59 -
14.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4585
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Sayed AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Marcella Maxwell, Llywodraeth Cymru Maureen Howell, Llywodraeth Cymru Dr Rachel Garside-Jones, Skills Policy & Youth Engagement Division (Welsh Government) Simon Thomas AC Gareth Howells Joanne McCarthy, Y Gwasanaeth Ymchwil |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Megan Jones (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
· Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
· Marcella Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglen Datblygu a Newid Sefydliadol, Llywodraeth Cymru
· Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cydraddoldeb a Ffyniant Llywodraeth Cymru
· Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Sgiliau, Cyflogadwyedd ac Ariannu'r UE, Llywodraeth Cymru
2.2 Yn ystod y sesiwn cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu nodyn ar:
· y gweithgaredd ar draws Llywodraeth Cymru yn ei dull o sicrhau ymrwymiadau gan gyflogwyr yn gyfnewid am gefnogaeth sectoraidd;
· rôl menywod mewn cartrefi sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, yn dilyn ymgynghori ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gweinidog Tai ac Adfywio.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.
5.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Simon Thomas AC, Aelod Cyfrifol
· Gareth Howells, Gwasanaethau Cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad
· Joanne McCarthy, Gwasanaeth Ymchwil Comisiwn y Cynulliad
5.2 Cytunodd yr Aelod Cyfrifol i ddarparu nodyn ar ei farn ar adroddiad yr Ymgynghorydd Arbenigol.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Simon Thomas AC, Aelod Cyfrifol
· Gareth Howells, Gwasanaethau Cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad
· Joanne McCarthy, Gwasanaeth Ymchwil Comisiwn y Cynulliad
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Aelod Cyfrifol mewn perthynas â sut y gellid egluro'r meini prawf o ran "Ymchwiliadau Estynedig".
7.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Simon Thomas AC mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
7.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
7.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gyngor ar Bopeth mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
7.4.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad ar gyllideb ddrafft 2018-19.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion cyn drafftio'r adroddiad.
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytuno arno: Y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau
10.1 Trafododd y Pwyllgor ei gylch gorchwyl a'i ymdriniaeth o'r ymchwiliad a chytunodd arnynt.